Adroddiad Blynyddol 2017/18
English

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2017/18

Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau
— cynllun gweithredu i Gymru

Wedi cynorthwyo mwy na
950
o ysgolion sy’n cael eu cynnal gan y wladwriaeth (63% o’r ysgolion yng Nghymru)

Cyhoeddi ein hail adroddiad gwerthuso annibynnol.

£2.2M
wedi'i fuddsoddi yng nghynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol

Rydym wedi gwella ansawdd addysgu i 90,800 o ddysgwyr drwy’r celfyddydau ac yn y celfyddydau.

90,800
90,800

Arddangos Ysgolion Creadigol Arweiniol yn y TATE Exchange; cynorthwyo 13 o ysgolion i gyflawni gweithgarwch byw ac arddangos gwaith o 36 o ysgolion Cymru.

SkillsCymru

Hyrwyddo Gyrfaoedd yn y Diwydiannau Creadigol yn SkillsCymru 2017.

Cyhoeddi adroddiad ar ran Cymru ym mhrosiect creadigrwydd a meddwl beirniadol yr OECD.

Rhagair

"Ein Cenhadaeth Genedlaethol ar gyfer Addysg yw codi safonau, cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder a hyder i'r genedl gyfan."

Mae Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau: Cynllun Gweithredu i Gymru 2015-2020, sy’n cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, bellach wedi cyrraedd mwy na 63 y cant o ysgolion Cymru. Mae hynny'n golygu bod bron i 91,000 o ddisgyblion wedi cael dysgu am y celfyddydau a diwylliant, wedi cymryd rhan yn y celfyddydau, ac wedi datblygu sgiliau creadigol ar draws y cwricwlwm. Mae hynny'n destament i orchestion bendigedig yr holl athrawon, proffesiynolion creadigol a dysgwyr sydd wedi cymryd rhan.

Ein Cenhadaeth Genedlaethol ar gyfer Addysg yw codi safonau, cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder a hyder i'r genedl gyfan. Rydyn ni wedi ymrwymo i lwyddiant a lles pob dysgwr, dim ots beth yw eu cefndir na'u hamgylchiadau personol.

Wrth gwrs, mae creadigrwydd yn flaenllaw ac wrth galon ein cwricwlwm newydd trawsnewidiol, ac rwy'n credu yn ei bŵer i sbarduno brwdfrydedd, ysbrydoli a chodi dyheadau pobl ifanc yng Nghymru. Dyna pam y bydd y Celfyddydau Mynegiannol yn un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad, ac un o bedwar diben y cwricwlwm – gan gynorthwyo ein plant a'n pobl ifanc i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, sy'n barod i chwarae rhan gyflawn mewn bywyd a gwaith.

Mae hyn yn gyson â diben a dull gweithredu Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau, ac wrth i ni fwrw ymlaen â'r cwricwlwm newydd, mae yna ddigonedd o arferion da y gallwn ddysgu ohonynt a'u rhoi ar waith drwyddi draw.

Rwy'n falch o'r hyn sydd wedi cael ei gyflawni trwy'r rhaglen eisoes, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio i'w gwneud yn gymaint o lwyddiant.

— Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg

“Mi ges i weithio gyda llwyth o bobl cwl o lawer o wahanol gefndiroedd ac mae wedi fy helpu i sylweddoli fy mod yn bendant eisiau gwneud Cyfryngau yn y coleg ar ôl ysgol.”

Datganiad Effaith

"Mae hyn i gyd yn cyfuno i newid natur sut mae ystod eang o bynciau yn cael eu haddysgu mewn ysgolion."

Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Nick Capaldi, sy’n archwilio’r gwahaniaeth diriaethol a real iawn y mae’r rhaglen hwn yn parhau i’w wneud ar draws tirwedd addysg a’r Celfyddydau yng Nghymru. Yn ategu Nick y mae lleisiau’r bobl hynny a all dystio go iawn i effeithiau unigol; disgyblion, athrawon ac artistiaid o bob rhan o Gymru.

"Doeddwn i erioed, yn fy mreuddwydion mwyaf gwyllt, wedi dychmygu y byddai ein dysgwyr yn eistedd yma yn cael gwers athroniaeth ac yn talu sylw drwy gydol y wers!”

Ysgolion Creadigol Arweiniol

Gyda chymorth ein trydydd cylch, y cylch olaf, o
228
o Ysgolion Creadigol Arweiniol

Rhoddwyd hyfforddiant Ysgolion Creadigol Arweiniol i
20
o gynrychiolwyr o’r sector diwylliannol a threftadaeth

Rhoddwyd hyfforddiant i Ymarferwyr Creadigol fel rhan o gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol

Dyfarnwyd 32 o geisiadau cymorth ysgol-i-ysgol newydd

32

Cynhyrchwyd cyfres o bedwar fideo astudiaeth achos yn dilyn trywydd effaith Dysgu Creadigol drwy ein Cylch 3 o Ysgolion Creadigol Arweiniol

Hyfforddwyd mwy na
900
o athrawon yn y garfan olaf o
Ysgolion Creadigol Arweiniol

Nifer y Grantiau fesul cylch

97

Cylch 1

120

Cylch 2

207

Cylch 3

Nifer yr Ysgolion fesul cylch

128

Cylch 1

151

Cylch 2

228

Cylch 3

"Dyna fydd un etifeddiaeth barhaol i’r prosiect – mae creadigrwydd yr un mor bwysig â llythrennedd, rhifedd, gwyddoniaeth a’r holl bynciau traddodiadol eraill."

Mae Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol yn parhau i gyflawni canlyniadau arloesol ar draws y cwricwlwm a ledled Cymru wrth iddo ddod i aeddfedrwydd yn ei drydedd flwyddyn. Mae addysgeg Ysgolion Creadigol Arweiniol yn dal i ddenu sylw byd-eang ac mae cysylltiadau bellach wedi’u creu ag India, Croatia, Ffrainc, Sgandinafia ac wrth gwrs Lloegr, lle cawsom y fraint o arddangos gwaith Ysgolion Creadigol Arweiniol Cymru yn y Tate Exchange yn Llundain ym mis Ebrill 2018.

Gwybodaeth am y Gronfa
"Maent wedi datblygu'r sgiliau, nid yn unig i berfformio ar y llwyfan, ond hefyd sgiliau bywyd trosglwyddadwy a fydd yn parhau i'w paratoi ar gyfer y dyfodol."

Profi’r Celfyddydau

Dyfarnwyd
258
o geisiadau Ewch i Weld
(cyfanswm o 454 hyd at 31 Awst 2018)

Dyfarnwyd 22 o grantiau Cydweithio Creadigol (cyfanswm o 60 hyd at 31 Awst 2018)

Dyfarnwyd 51 o grantiau Gweithgarwch Canmlwyddiant y Rhyfel Mawr

51

Cyfanswm yr arian (£) a ddyfarnwyd 2017/18

£170k

Ewch i Weld

£39k

Ewch i Weld: y Rhyfel Mawr

£367k

Cydweithio Creadigol

Cyfanswm yr arian (£) a ddyfarnwyd 2017/18

8050

Ewch i Weld

2503

Ewch i Weld: y Rhyfel Mawr

3971

Cydweithio Creadigol

Cydweithio Creadigol

Cronfa arloesol yw Cydweithio Creadigol, lle gall partneriaethau o ysgolion a sefydliadau’r celfyddydau wneud cais am hyd at £15,000 ar gyfer prosiectau’r celfyddydau mynegiannol sy’n wirioneddol arloesol ac yn torri tir newydd. Bu’r gronfa mor boblogaidd ag erioed eleni, gyda phrosiectau mor amrywiol ag ystafelloedd dianc theatraidd, offeryn digidol pwrpasol, ballet, cerameg gain a bît-bocsio.

Ewch i Weld

Ewch i Weld yw ein cronfa hynod boblogaidd y gall ysgolion ei defnyddio i fynd i weithgareddau celfyddydol o ansawdd uchel. Byddwn yn talu hyd at 90% o’r costau gan gynnwys tocynnau a chludiant, hyd at gyfanswm o £1,000. Eleni defnyddiwyd y gronfa i fynd i ddramâu a sioeau cerdd anhygoel, cyngherddau cerddoriaeth glasurol, orielau, gweithdai a gwyliau llenyddol, a llawer mwy.

"Fe newidiodd y ffordd roeddwn i'n meddwl am gelf mewn sawl ffordd wahanol. Roedd yn anhygoel. Diolch."

Rhaglen Ranbarthol y Celfyddydau ac Addysg

Darparwyd
118
o gyfleoedd DPP i athrawon ac artistiaid ledled Cymru.

Cynhaliwyd 28 o gyfleoedd rhwydweithio i athrawon ac artistiaid ledled Cymru.

28

Cynhaliwyd ein digwyddiad cenedlaethol cyntaf.

32 o Bencampwyr y Celfyddydau ar gael i ysgolion ledled Cymru.

32

"Wrth weithio gyda phobl eraill, rydych chi’n ailgynnau eich angerdd am gelfyddyd a chreadigrwydd. Rydych chi’n taflu syniadau’n ôl ac ymlaen a chael bod yn blentyn unwaith eto. Chwarae o gwmpas, cael hwyl. Dyna ddiben y cyfan, on’d e?"

Bu ein pedwar o Rwydweithiau Rhanbarthol y Celfyddydau ac Addysg yn gweithio’n galed eleni, yn cynnal hyfforddiant rhagorol i athrawon ac artistiaid ym mhob rhan o Gymru, yn ogystal â broceru llawer o gysylltiadau a pherthnasoedd newydd rhwng ysgolion, gweithwyr proffesiynol y celfyddydau a sefydliadau’r celfyddydau drwy nifer o ffyrdd, gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio a phlatfformau ar-lein. Maent hefyd wedi parhau i reoli rhaglen Pencampwyr y Celfyddydau er mwyn darparu cymorth i athrawon y Celfyddydau Mynegiannol mewn ysgolion ar draws y rhanbarthau.

"Roeddwn i'n teimlo'n fwy hyderus ynof fy hun, o fewn fy nosbarth, a bod ar y llwyfan o flaen pawb. Roeddwn i'n teimlo'n falch iawn o gofio fy holl linellau ac aros mewn cymeriad drwy’r perfformiadau."

Pecyn Cymorth CELC

Mae Celc yn helpu athrawon ac artistiaid i gydweithio i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion drwy’r celfyddydau mynegiannol. Beth bynnag yw eich arbenigedd o ran pwnc neu ffurf ar gelfyddyd, mae’r pecyn cymorth hwn yn llawn syniadau i’ch ysbrydoli, dolenni defnyddiol a chanllawiau ymarferol i gynorthwyo eich dosbarth i ateb gofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol mewn ffyrdd newydd, hwyliog ac atyniadol.

Cyswllt â defnyddwyr y wefan:

4845

Golygon Tudalennau

757

Defnyddwyr Unigryw

3:03

Cyfartaledd Hyd Sesiwn

Ymwelwch â Phecyn Cymorth CELC >

Ystadegau Rhanbarthol

Cenedlaethol

Cyfanswm nifer o Ysgolion Creadigol Arweiniol: 577

Cydweithio Creadigol wedi'w dyfarnu: 43

Ewch i Weld wedi'w dyfarnu: 258

Ewch i Weld: y Rhyfel Mawr wedi'w dyfarnu: 48

"Yr hyn oedd yn hyfryd iawn i'w wylio, oedd yr holl ddisgyblion yn cefnogi ei gilydd drwy gydol y perfformiad.... Roedd yn anhygoel gwylio ymdrech mor gydweithredol."

Nodau

Codi proffil rhyngwladol rhaglen Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau

Cyhoeddi ein trydydd adroddiad gwerthuso annibynnol

Cynnal digwyddiad cenedlaethol ym mis Ebrill 2019 i arddangos y cyfoeth o ddysgu sy’n codi ar draws y rhaglen

Cynorthwyo i hyrwyddo Gyrfaoedd yn y Diwydiannau Creadigol yn SkillsCymru 2018

Cynorthwyo 32 o brosiectau datblygu ysgol-i-ysgol Ysgolion Creadigol Arweiniol gan weithio gyda 38 o ysgolion ychwanegol ledled Cymru

Cynorthwyo ein trydydd cylch, sef ein cylch terfynol, o 228 o Ysgolion Creadigol Arweiniol ym mhrosiectau’r ail flwyddyn

Hyfforddi tua 120 o athrawon fel rhan o gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol

Cynnal Hyfforddiant Ymarferwyr Creadigol fel rhan o gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol

Darparu 60 o gyfleoedd DPP i athrawon ac artistiaid ledled Cymru

Darparu 12 o gyfleoedd rhwydweithio i athrawon ac artistiaid ledled Cymru

Sicrhau bod 50 o Bencampwyr y Celfyddydau ar gael i ysgolion ledled Cymru

Creu cynnwys a rhannu arferion da ar y Parth Dysgu Creadigol

Dyfarnu tua 200 o geisiadau Ewch i Weld

Dyfarnu tua 18 o geisiadau Cydweithio Creadigol

Dyfarnu grantiau o hyd at £1000 i ysgolion ledled Cymru fel rhan o Ganmlwyddiant y Rhyfel Mawr

"Mae modd gweld enghreifftiau o addysgu rhagorol, ac mae’r cyfan oll yn cyfuno i wneud newid go iawn i’r modd y mae amrywiaeth eang o bynciau yn cael eu haddysgu mewn ysgolion."

Dyma ddod â’n hadroddiad i ben, gan obeithio ichi gael ambell gipolwg ar y gwaith gwirioneddol wych a fu ar y gweill ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn parhau i werthuso a dysgu wrth inni fwrw ymlaen, gan wrando ar leisiau ein rhanddeiliaid er mwyn inni fod yn ystwyth, ac arloesi ar hyd y daith.

Os hoffech barhau i glywed yr hanes wrth inni fynd yn ein blaenau, cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion, neu dilynwch ein sianeli YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol.

Cymrwch olwg ar Adroddiad Blynyddol y llynedd