"Ein Cenhadaeth Genedlaethol ar gyfer Addysg yw codi safonau, cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder a hyder i'r genedl gyfan."
Mae Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau: Cynllun Gweithredu i Gymru 2015-2020, sy’n cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, bellach wedi cyrraedd mwy na 63 y cant o ysgolion Cymru. Mae hynny'n golygu bod bron i 91,000 o ddisgyblion wedi cael dysgu am y celfyddydau a diwylliant, wedi cymryd rhan yn y celfyddydau, ac wedi datblygu sgiliau creadigol ar draws y cwricwlwm. Mae hynny'n destament i orchestion bendigedig yr holl athrawon, proffesiynolion creadigol a dysgwyr sydd wedi cymryd rhan.
Ein Cenhadaeth Genedlaethol ar gyfer Addysg yw codi safonau, cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder a hyder i'r genedl gyfan. Rydyn ni wedi ymrwymo i lwyddiant a lles pob dysgwr, dim ots beth yw eu cefndir na'u hamgylchiadau personol.
Wrth gwrs, mae creadigrwydd yn flaenllaw ac wrth galon ein cwricwlwm newydd trawsnewidiol, ac rwy'n credu yn ei bŵer i sbarduno brwdfrydedd, ysbrydoli a chodi dyheadau pobl ifanc yng Nghymru. Dyna pam y bydd y Celfyddydau Mynegiannol yn un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad, ac un o bedwar diben y cwricwlwm – gan gynorthwyo ein plant a'n pobl ifanc i fod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, sy'n barod i chwarae rhan gyflawn mewn bywyd a gwaith.
Mae hyn yn gyson â diben a dull gweithredu Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau, ac wrth i ni fwrw ymlaen â'r cwricwlwm newydd, mae yna ddigonedd o arferion da y gallwn ddysgu ohonynt a'u rhoi ar waith drwyddi draw.
Rwy'n falch o'r hyn sydd wedi cael ei gyflawni trwy'r rhaglen eisoes, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio i'w gwneud yn gymaint o lwyddiant.
— Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg